News
Dathlu Diolchgarwch efo’r banc bwyd
20th September 2022
-
Share this:
- Share on facebook
- Share on twitter
- Share on linkedin

Bob blwyddyn mae capeli, eglwysi ac hyd yn oed ysgolion yn dathlu diolchgarwch. Wrth i ni ddiolch i Dduw am yr hyn sy gennym ni, dyma gyfle gwych i gefnogi pobl eraill yn ein cymuned sy’n wynebu caledi. Dan ni wedi creu poster diolchgarwch er mwyn tynnu’ch sylw at y cyfle. Cysylltwch os byddech chi’n licio trafod sut fedrwch chi gasglu bwyd yn eich gweithle, ysgol neu gapel.