Give Help
Volunteer
Make a difference in your community by helping our neighbours throughout Arfon in their time of crisis.
Volunteers are the driving force behind foodbanks. Whether you can commit a day or two a week, or a couple hours a month, your support will make a real difference to the life of someone in crisis. We have many different roles for volunteering, such as:
Gwirfoddolwyr sy’n gyrru gwaith banciau bwyd. P’un a allwch chi roi diwrnod neu ddau yr wythnos, neu awr neu ddwy y mis, gall eich cefnogaeth chi wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun mewn argyfwng. Mae yna amrywiaeth mawr o waith gwirfoddol ar eich cyfer, er enghraifft:
Helping onsite at the foodbank // HELPU AR SAFLE’R BANC BWYD
We need volunteers to assemble and give out food parcels, meet clients and have an informal chat with clients over a cup of tea. We also need help to weigh, sort and store donated food before it’s made into parcels for clients to collect. You could help in this vital work to ensure we have the right food available at all times.
Mae arnom angen gwirfoddolwyr i baratoi pecynnau a’u rhoi i bobl, i gwrdd â chleientiaid a chael sgwrs anffurfiol gyda chleientiaid dros banad o de. Mae arnom angen cymorth hefyd i bwyso, didoli a storio rhoddion bwyd cyn iddo gael ei baratoi’n barseli ar gyfer cleientiaid. Gallech chi helpu yn y gwaith hollbwysig hwn er mwyn sicrhau bod y bwyd iawn ar gael bob amser.
Signposting Volunteer // Gwirfoddolwr Mynegbostio
Arfon Foodbank’s main task is to provide a 3-day emergency parcel of food to people in need. Sometimes people come to us only once, while others are more frequent clients. This role will be the primary connection between the client and the foodbank to both ascertain what the client needs in the parcel as well as to identify opportunities to signpost the client to other support agencies. Read the Signposting Volunteer’s role description here.
Prif waith Banc Bwyd Arfon yw darparu parsel bwyd argyfwng 3 diwrnod i bobl mewn angen. Weithiau mae pobl yn dod atom ni unwaith yn unig, tra bod eraill yn dod yn amlach. Y gwaith hwn fydd y prif gyswllt rhwng y cleient a’r banc bwyd er mwyn darganfod beth sydd ei angen ar y cleient yn y parsel yn ogystal â nodi chyfleoedd i gyfeirio cleient at asiantaethau cefnogi. Darllenwch ddisgrifiad o waith y Gwirfoddolwr Mynegbostio yma.
Social Media Coordinator // Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol
We need help spreading the word about how Arfon Foodbank can help people and how the community can support our work. Platforms like Facebook, Twitter, and Instagram offer many opportunities to connect with both people in need and with people who want to help. Join our team and help us work to eradicate poverty in Arfon. Read the Social Media Coordinator’s volunteer role description here.
Dan ni angen help i rannu sut mae Banc Bwyd Arfon yn medru helpu pobl a sut mae’r cymuned yn medru cefnogi’n gwaith ni. Mae cyfryngau fel Facebook, Twitter, ac Instagram yn cynnig sawl cyfle i ni gysylltu efo pobl sy angen cymorth ac efo pobl sy eisiau helpu. Ymunwch â ni a helpwch ni i ddileu tlodi yn Arfon. Darllenwch mwy am rôl y Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol fan hyn.
Press Coordinator // Cydlynydd y Wasg
Arfon Foodbank is often contacted by reporters, radio presenters, and television producers who are reporting on economic news affecting foodbank clients and our work. Join our team to help promote the work of the foodbank and bust myths about food poverty by connecting with traditional media outlets. Read the Press Coordinator’s volunteer role description here.
Yn aml iawn mae Banc Bwyd Arfon yn derbyn negeseuon gan gohebwyr a cynhyrchwyr teledu a radio sy’n adrodd ar newyddion economaidd sy’n effeithio ar gleientau’r banc bwyd a’n gwaith ni. Ymunwch â ni er mwyn hyrwyddo gwaith y banc bwyd a chwalu chwedlon am tlodi bwyd trwy gysylltu efo’r cyfryngau traddodiadol. Darllenwch mwy am rôl y Cydlynydd Gwasg fan hyn.
Referral Agency Liaison // Cysylltydd ag Asiantaethau Cyfeirio
Food bank vouchers are issued to people by referral agencies (statutory and charitable organisations e.g. Citizens Advice or the Job Centre). People can then redeem their voucher for a 3-day emergency food parcel at a local food bank. This is a crucial liaison role, supporting and developing the food bank’s relationship with local referral agencies to enhance the service we offer. Read the Referral Agency Liaison’s volunteer role description here.
Dosbarthir talebau’r banc bwyd i bobl gan asiantaethau cyfeirio (mudiadau statudol ac elusennol, e.e., Cyngor ar Bobeth neu’r Ganolfan Gwaith). Mae pobl yn medru cyfnewid y talebau ar gyfer pecynnau argyfwng am dridiau o fwyd yn y banc bwyd. Mae’r rôl yma’n allweddol i gefnogi a datblygu perthynas y banc bwyd efo asiantaethau lleol sy’n cyfeirio pobl atom ni, er mwyn gwella y gwasanaeth dan ni’n ei ddarparu. Darllenwch mwy am rôl y Cyswllt Asiantaethau fan hyn.
Van Driver // Gyrrwr Fan
We often need to deliver parcels to people in need who are unable to leave their homes or who live outside of Caernarfon and have no other transportation options. We’re looking for a team of delivery drivers who can come to the foodbank at the end of our shifts to collect parcels and deliver them within Arfon. We also need drivers who are willing to collect donations from collection points from time to time. Read the Van Driver’s role description here.
Rydym angen cludo parseli yn aml i bobl mewn angen sy methu gadael eu tai neu sy’n byw y tu allan i Gaernarfon ac sy heb opsiynau trafnidiaeth eraill. Rydym yn chwilio am dîm o yrrwyr cludo sy’n medru dod i’r banc bwyd ddiwedd y sifftiau i gasglu parseli a’u cludo o fewn Arfon. Rydym hefyd angen gyrrwyr sy’n fodlon casglu rhoddion o fannau casgliad o dro i dro. Darllenwch fwy am rol Gyrrwr Fan fan hyn.
Driver Buddy // Cyfaill Gyrru
We often need to deliver parcels to people in need who are unable to leave their homes or who live outside of Caernarfon and have no other transportation options. We’re looking for a team of driver buddies who can come to the foodbank at the end of our shifts to collect parcels and deliver them within Arfon. We also need driver buddies who are willing to collect donations from collection points from time to time. Read the Van Driver’s role description here.
Rydym angen cludo parseli yn aml i bobl mewn angen sy methu gadael eu tai neu sy’n byw y tu allan i Gaernarfon ac sy heb opsiynau trafnidiaeth eraill. Rydym yn chwilio am dîm o gyfeillion gyrru sy’n medru dod i’r banc bwyd ddiwedd y sifftiau i gasglu parseli a’u cludo o fewn Arfon. Rydym hefyd angen cyfeillion gyrru sy’n fodlon casglu rhoddion o fannau casgliad o dro i dro. Darllenwch fwy am rol Gyrrwr Fan fan hyn.
If you are interested in volunteering please get in touch, we’d love to hear from you!
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, da chi cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!