News
Rydym ni angen eich help i ail-lenwi ein silffoedd
27th April 2023
Share this: facebook link twitter link linkedin link
Rydym yn ddiolchgar iawn am haelioni ein cymdogion ym mhob rhan o Arfon. Mae rhoddion gan y gymuned yn ein galluogi i wasanaethu pobl sydd mewn argyfwng.
Yn y flwyddyn aeth heibio, dosbarthwyd dros 43,000 kg o fwyd gennym i dros 4500 o bobl ym mhob rhan o Arfon, a 40% o’r rheini’n blant. Gwaetha’r modd mae’r niferoedd hynny yn parhau i godi. Gyda’r cynnydd anferth ym mhrisiau bwyd ac ynni, mae’r argyfwng costau byw yn taro pawb. Nid yn unig rydym yn gweld mwy o bobl sydd angen parseli bwyd argyfwng, ond rydym hefyd yn gweld llai o roddion yn dod i mewn. Credwn na ddylai neb yn ein cymuned orfod wynebu mynd heb fwyd a gyda’ch cymorth chi gallwn ni wneud yn siwr nad yw hynny ddim yn digwydd.
Mae angen rhoddion arnom yn fwy nag erioed. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu:
- Ychwanegu eitemau at eich neges siopa, gan gofio am y pethau rydym eu hangen fwyaf
- Trefnu casgliad bwyd yn eich swyddfa, eich eglwys, eich ysgol neu eich cymuned
- Trefnu digwyddiad codi arian i’n helpu i brynu eitemau sydd eu hangen ar frys
Mae angen yr eitemau canlynol arnom ar hyn o bryd:
- Tuniau cyw iâr mewn saws gwyn
- Peli cig tun
- Mins tun
- Pysgod tun
- Llysiau tun
- Grawnfwyd
- Llaeth oes hir
- Siwgr
- Coffi powdr
- Sgwosh
Gallwch adael eich rhoddion yn y banc bwyd bob dydd Mawrth a dydd Gwener rhwng 10am a 2pm, neu yn unrhyw un o’r mannau casglu rhoddion ar y rhestr yma. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau anfonwch ebost at y banc bwyd i’r cyfeiriad [email protected]